AsDrwg.com
AsDrwg.com
Trefi Marchnad, dim
Trefi Archfarchnadoedd

Fyddech chi'n hoffi gweld swyddi o safon i bobl leol?

Fyddech chi'n hoffi gweld tai o safon i bobl leol?

Mae llawer iawn gormod o bobl leol HEB dai neu swyddi o safon.

Pam? Un rheswm canolog ydy cryfder cynyddol, di-baid y siopau cadwyn.

Sut mae siopau cadwyn yn gwneud niwed i drefi bychain?

Mae siopau cadwyn yn edrych fel siopau lleol, ond dydyn nhw DDIM. Maen nhw'n ganghennau o sefydliad mawr sydd a'i gwreiddiau yn rhywle arall - gan amlaf, yn bell iawn o'ch cymuned chi, yn Lloegr neu Ffrainc neu America.

Pan rydych yn gwario arian mewn siop LLEOL, mae'r rhan helaeth o'r arian yn AROS yn eich cymuned. Bydd perchennog y siop yn ei wario ar bethau y mae hi neu ef eu hangen o fusnesau lleol eraill - 'cadw'r pres yn nes', gallwch chi ddweud.

Pan rydych yn gwario arian mewn siop sydd dim byd ond adran o gwmni o bell i ffwrdd, o dramor hyd yn oed, mae'r arian yna yn cael ei sugno allan o'ch cymuned chi.

[Mae busnesau lleol fel arfer yn gwario 50-60% o'u hennillion yn lleol. Mae siopau cadwyn fel arfer yn gwario 10-15%.]

Sut effaith ydy hynny'n cael ar swyddi lleol?

Mae swyddi siopau cadwyn yn gyflog isel. Yn aml, dim ond rhan amser maen nhw - mae siopau cadwyn yn hoff o gael gwared o'u staff yn gyflym pan mae angen, sydd yn fwy anodd gyda staff llawn amser.

Meddyliwch amdano fo fel hyn - mae'r pobl yn eich cymuned yn bwyta dim ond hyn a hyn o fwyd. Pan mae siop cadwyn yn symud i fewn, nid yw neb yn dechrau bwyta mwy. I'r siop cadwyn wneud elw (sydd o dan y gyfraith yr UNIG peth y maent yn poeni amdano), mae'n RHAID i'r siopau roeddech chi ARFER eu defnyddio wneud colled.

Mewn llawer o drefi, pan bydd busnes y cigydd lleol yn methu, mae o neu hi yn gorfod cael gwaith yn y pen draw yn adran cig y siop cadwyn newydd - ar gyflog llawer llai. Dyma'r effaith y mae siop cadwyn newydd yn ei gael - mae'n dinistrio busnesau lleol, ac yn cynnig ceiniogau fel diolch.

Dyna sut maen nhw'n gwneud eu HELW.

Pwy sy'n ennill pan mae siop cadwyn newydd yn cyrraedd?

Peidiwch â llyncu'r hen gelwyddau arferol. Mae pob siop cadwyn yn dweud dau beth pan maent yn ceisio swyno eich cynghorwyr lleol i roi caniatad iddyn nhw:

  • Byddant yn creu swyddi i bobl leol
  • Byddant yn creu 'clawback' - lle mae pobl sydd wedi bod yn siopa mewn dref arall (oherwydd fod ganddo siop cadwyn sydd ddim yn eich tref chi) yn dychwelyd i'ch tref chi i siopa

Mae'r un cyntaf yn LOL CELWYDDOG. Tra'n creu cyn lleied o swyddi ag y bod modd, a'r rheina am gyflogau pitw, byddant yn dinistrio busnesau lleol gan dorri swyddi sy'n bodoli eisoes. Mae astudiaethau annibynnol wedi'u comisiynu gan sefydliadau fel Swyddfa'r Ddirprwy Brif Weinidog, a'r Fforwm Cynllunio Manwerthu Cenedlaethol (wedi'i ariannu gan y siopau cadwyn mawrion!), wedi dangos trosodd a throsodd bod siopau cadwyn newydd yn aml iawn yn dinistio mwy o swyddi na'r rhai y maent yn eu creu. Ym 1998, cynhyrchodd y Fforwm Cynllunio Manwerthu Cenedlaethol adroddiad dangosodd bod 276 o swyddi yn cael eu colli yn gyfartal bob tro bydd siop cadwyn newydd yn agor.

Mae'r ail bwynt yn wir mewn ffordd gyfyngedig dros ben - mae rhai siopwyr yn dewis y siop cadwyn agosaf, ond dim llawer ohonyn nhw wedyn yn ymweld â siopau eraill yn yr un tref, yn rhannol oherwydd bod siopau cadwyn yn hoff o gynnig lle parcio am uchafswm o 2 awr (sydd yn golygu nad oes gan y fwyafrif o siopwyr ddigon o amser i fynd i siopau eraill). Wrth gymharu â'r niwed maent yn ei wneud wrth ddinistrio busnesau lleol, nid yw hyn yn ganlyniad da i'ch cymuned.

Pwy sy'n ennill, felly?

Mae'n debych eich bod chi'n gwybod eisoes - ia, y siop cadwyn sy'n ennill.

Maen nhw'n dod i'ch cymuned chi DIM OND oherwydd iddynt gredu bod modd cael eich PRES.

Os ydy eich arian yn mynd iddyn nhw, NID YW'N mynd i fusnesau lleol.

Y caswir ydy bob tro y byddwch yn siopa mewn siop cadwyn, rydych yn gwneud niwed i'ch cymuned eich hunan.

Mae'n RHAID dod â hyn i ben

Mae Cymuned yn fudiad pwyso cymunedol.

Rydym yn galw ar eich cyngor i wrthod caniatad cynllunio ar gyfer datblygiadau manwerthu a bwyd sydd ddim gyda rhywun sy'n byw yn eich sir chi yn berchen arnynt.

Mae'n amser cael gwared o'r syniad bod nwyddau rhad siopau cadwyn yn bwysicach na swyddi o safon i bobl leol.

Mae'n amser i beidio rhoi chwant y siop cadwyn am bres o flaen anghenion pobl leol.

Mae'n amser rhoi stop ar adael i'n trefi a'n pentrefi gael eu lladd.

Dim Mwy o Siopau Cadwyn!

Os ydych yn cytuno, tanysgrifiwch i e-bost wythnosol
Cymuned AM DDIM,
er mwyn clywed sut
rydym yn gofyn i'ch Cyngor newid.
   Enw:
E-bost: