AsDrwg.com
AsDrwg.com
Trefi dan Fygythiad

Lle mae pobl yn dal eu tir?

Yn Y Fenni, mae pobl leol yn gwrthwynebu cynlluniau'r cyngor i ddod ag ASDA newydd, cwbl di-angen i'r tref. Os ydach chi'n byw yn Y Fenni neu yn agos, tanysgrifwch am ein e-bost wythnosol rwan hyn, a chysylltwch i adael i ni wybod os ydach yn fodlon helpu. Newyddion diweddaraf - mae'r cais wedi cael ei wrthod, ond mae pobl leol yn ofni y daw cais diwygiedig...

Ym Mhwllheli, mae caniatad wedi'i rhoi ar gyfer ASDA newydd - mae Cymuned yn gweithio i ddatblygu rhwydwaith busnes lleol i helpu amddiffyn cymaint â bod modd o swyddi lleol. Os ydach chi'n byw ym Mhwllheli, neu yn agos, ac yn awyddus i helpu gyda'r rhwydwaith busnes, e-bostiwch ni...:-)

Yn Aberteifi, mae'r Cyngor Tref wedi pleidleisio'n unfrydol (gydag un yn ymatal) yn erbyn cais anferth i ddatblygu siop cadwyn ar dir y Bathhouse, ac mae'r Cyngor Sir wedi gwrthdroi'r penderfyniad hwn - beth ddigwyddodd i ddemocratiaeth lleol? Mae'r Cynulliad wedi mwmian rhyw ychydig cyn benderfynu peidio a'i galw i fewn, a rwan mae disgwyl i'r siopau cadwyn mawr fynd i ryfela am yr hawl i ddatblygu'r safle. Datblygwyr yn gwneud miliynau, pobl leol yn colli swyddi - yr un hen stori.

Os ydych yn byw yn agos at un o'r trefi uchod, ac yn awyddus i weld eich economi lleol yn ffynnu ac yn darparu swyddi o safon i bobl leol, tanysgrifiwch i'n e-bost ni er mwyn clywed am ddwysin o ffyrdd gwahanol i sefyll yn erbyn y siopau cadwyn dinistriol.

Ydy eich tref chi o dan fygythiad?

Os felly, cysylltwch â ni: e-bostiwch ni
at cymuned[at]cymuned.org a byddwn
yn cynnig cymorth uniongyrchol ac ymarferol

Mae'n RHAID rhoi stop ar y niwed

Mae Cymuned yn fudiad pwyso cymunedol.

Rydym yn galw ar eich cyngor i wrthod caniatad cynllunio ar gyfer datblygiadau manwerthu a bwyd sydd ddim gyda rhywun sy'n byw yn eich sir chi yn berchen arnynt.

Mae'n amser cael gwared o'r syniad bod nwyddau rhad siopau cadwyn yn bwysicach na swyddi o safon i bobl leol.

Mae'n amser i beidio rhoi chwant y siop cadwyn am bres o flaen anghenion pobl leol.

Mae'n amser rhoi stop ar adael i'n trefi a'n pentrefi gael eu lladd.

Dim Mwy o Siopau Cadwyn!

Os ydych yn cytuno, tanysgrifiwch i e-bost wythnosol
Cymuned AM DDIM,
er mwyn clywed sut
rydym yn gofyn i'ch Cyngor newid.
   Enw:
E-bost: